Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6597
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Gofynnwyd yr holl gwestiynau. Cafodd cwestiynau 1 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
4 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Cwestiynau Amserol
5 Datganiadau 90 Eiliad
Ni dderbyniwyd unrhyw Datganiadau 90 eiliad
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.32 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd dros dro.
6 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Calonnau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7427 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil calonnau Cymru i wella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gosod dyletswydd ar:
a) Gweinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth i wella canlyniadau ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty a datblygu llwybrau goroesi ar gyfer y wlad gyfan;
b) awdurdodau lleol i gynllunio i sicrhau mynediad digonol i ddiffibrilwyr cymunedol ym mhob rhan o'u hardal;
c) Gweinidogion Cymru i sicrhau bod hyfforddiant mewn CPR yn cael ei ddarparu i bobl ledled Cymru;
d) byrddau iechyd i gydweithio i baratoi llwybr goroesi rhanbarthol ar gyfer ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty; ac
e) Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiad i'r Senedd ar gynnydd eu strategaeth yn erbyn amcanion bob blwyddyn.
Cyd-gyflwynwyr
Andrew RT Davies (Canol De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
11 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Dadl ar Ddeiseb P-05-1003: Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7438 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1003 Mynnu Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi'i halogi'n radiolegol yn nyfroedd Cymru’ a gasglodd 10,692 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.40 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
8 Dadl Plaid Cymru - Dyfodol Addysg
Dechreuodd yr eitem am 16.45
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7440 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi sicrwydd amserol i ddisgyblion ac athrawon drwy wneud datganiad ar unwaith na fydd arholiadau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn haf 2021 a bydd asesiad gan athrawon yn digwydd yn lle hynny;
b) sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system asesu a chymwysterau ddiwygiedig yng Nghymru sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru drwy ddileu arholiadau hen ffasiwn TGAU a Safon Uwch.
c) sicrhau bod pob disgybl yn gadael y system addysg yn ddinasyddion dwyieithog, drwy:
i) cymryd camau pellach i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn hwyluso rhuglder yn y Gymraeg fel norm drwy gynyddu addysg gyfrwng Cymraeg ym mhob sector a chyfnod dysgu; a
ii) ymrwymo i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg;
d) sicrhau bod gan bob disgybl ddealltwriaeth o dreftadaeth a hunaniaeth amrywiol Cymru, drwy wneud hanes Cymru yn elfen orfodol yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, gan gynnwys hanes pobl dduon a phobl groenliw sy’n rhan annatod o hanes Cymru;
e) cynnal hawliau pob disgybl yn ardal Pontypridd ac mewn mannau eraill i addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cymuned eu hunain ac o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi drwy hyrwyddo'n eang y cynseiliau sy'n deillio o ddyfarniad y llys gweinyddol yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â sicrhau yr ymgymerir ag asesiadau effaith iaith Gymraeg yn briodol mewn cynigion i ad-drefnu ysgolion;
f) blaenoriaethu iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr drwy sicrhau bod meysydd dysgu ac arbenigedd iechyd meddwl a lles yn cael sylw dyledus yn y Bil Cwricwlwm ac Asesu, a monitro tueddiadau tymor canolig a hirdymor yn y ddarpariaeth iechyd meddwl o fewn ysgolion;
g) cefnogi myfyrwyr addysg bellach sy'n dysgu gartref, a hynny ar frys, drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at ddarpariaeth band eang ac offer digonol, ac asesu ar frys yr angen i ailagor lleoedd gwaith cyhoeddus yn ddiogel i fyfyrwyr na allant weithio gartref;
h) atal prentisiaid rhag llithro i dlodi drwy warantu amddiffyniadau cyflog llawn pan fo gweithleoedd yn cael eu cau, a darparu cymorth/arweiniad ychwanegol os cânt eu diswyddo;
i) cynnal hawliau cyfreithiol myfyrwyr drwy sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gyfartal â gweddill y cyhoedd o ran cyfyngiadau COVID-19, gan gynnwys gwarant y gall myfyrwyr ddychwelyd adref cyn cyfnod y Nadolig gan sicrhau bod mesurau diogelu priodol ar waith drwy brofion.
Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
40 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
'cymryd pob cam i sicrhau bod disgyblion yng Nghymru yn cael cyfle i sefyll arholiadau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod y flwyddyn ysgol hon, gan gynnwys os caiff y flwyddyn ysgol ei hymestyn;
pennu dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud penderfyniad ynghylch a fydd arholiadau'n mynd rhagddynt, gyda'r dyddiadau'n caniatáu i system gredadwy a chadarn o raddau asesu canolfannau a gymedrolir yn allanol gael ei gweithredu yn lle hynny;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (c) (i) a rhoi yn ei le:
'cyflwyno cod continwwm Iaith Gymraeg i gynorthwyo ymarferwyr i gyflawni'r nod o wella rhuglder drwy'r cwricwlwm;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt (c)(ii) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
'derbyn y dyfarniad yn Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ôl pwynt (c) ac ailrifo'n unol â hynny:
'sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol a'u bod yn cael cyfle teg i ddangos eu bod wedi cyrraedd y sgiliau hynny drwy system well o asesu a chymwysterau cyffredinol sy'n cyd-fynd â chwricwlwm newydd Cymru a thrwy fynediad i gyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (e) ac ailrifo'n unol â hynny
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
3 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (g) ac ailrifo yn unol â hynny:
'adlewyrchu argymhellion yr adroddiad Cadernid Meddwl ac arsylwadau'r Comisiynydd Plant yn well wrth gyflwyno'r cwricwlwm, a monitro canlyniadau;'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt (h) ac ailrifo'n unol â hynny.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
35 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 wedi tarfu ar addysg disgyblion.
Yn cydnabod ymrwymiad a hyblygrwydd yr holl staff sy'n darparu addysg yn ystod pandemig COVID-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
9 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'gwneud datganiad brys ar y cymorth a ddarperir i brentisiaid a hyfforddeion.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
3 |
26 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii) ni ddewiswyd gwelliant 10
Gan nad oedd y Senedd wedi derbyn y cynnig heb ei ddiwygio, nac wedi derbyn y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, cafodd y cynnig felly ei wrthod.
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 17.48, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.54
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.02
NDM7439 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ehangu'r sbectrwm: ychwanegu glas at yr adferiad gwyrdd.
Gosod ein moroedd wrth wraidd yr economi werdd a setliad cymdeithasol yn dilyn COVID-19.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Tachwedd 2020